{"product_id":"o-law-i-law-9781917237543","title":"O Law i Law","description":"\u003cp\u003e • Author(s): T. Rowland Hughes\u003cbr\u003e • Publisher: Melin Bapur\u003cbr\u003e • Publisher Imprint: Melin Bapur\u003cbr\u003e • BISAC: Classics\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cem\u003e(New edition of T. Rowland Hughes's classic Welsh language novel O Law i Law)\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma'r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F'ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai'r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau'r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eWedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu tŷ, drwy werthu eu heiddo 'o law i law' i'w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae'n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a'i fagwraeth, ei berthynas gyda'i rieni a'i ewythr, a'r gymdeithas mae'n rhan ohoni.\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003eRoedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu'r llyfr a'r nofelau a'i dilynodd yn lwyddiannau ysgubol ddaeth � bri ac enwogrwydd i'w hawdur na phrofasai'r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw'r tawelaf a'r mwynaf o'i nofelau, a'r un sy'n dwyn y mwyaf o'i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Atlantic Books","offers":[{"title":"Paperback","offer_id":46390958817431,"sku":"9781917237543","price":1940.0,"currency_code":"INR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0666\/3471\/1191\/files\/9781917237543.webp?v=1768804733","url":"https:\/\/atlanticbooks.com\/products\/o-law-i-law-9781917237543","provider":"Atlantic Books","version":"1.0","type":"link"}